Ar Galfaria un prydnawn, Byth mi gana', Fe gaed buddugoliaeth lawn, Haleliwia, Ar holl luoedd uffern fawr, Ac ar angau; Iachawdwriaeth fawr ei dawn Ddaeth i minau. Dyma'r Aberth mae erioed Son am dano; Ar y ddaear 'does yn bod Debyg iddo: Mae seraphiaid pena'r nen Yn rhyfeddu Gwel'd eu Brenin ar y pren, Yno'n trengu. Nid oes terfyn byth i'w gael Ar ei gariad; Mae'i drysorau mawrion hael Uwch ein dirnad; Ynddo'u Hunan y mae'n llwyr Oll ddymuna F'enaid egwan fore a hwyr Haleliwia!1: Cas. o Hymnau ... Wesleyaidd 1844 2-3: William Williams 1717-91
Tonau [7474D]: gwelir: Bugail yw fe roes ei waed Mi a gredaf yn fy Nuw Caned nef a daear lawr Myn'd a wnaf dan godi'm llef Nid oes aberth o un rhyw |
On Calvary one afternoon, I shall ever sing, A full victory was got, Hallelujah! Over all the hosts of great hell, And over death; And the great gift of salvation Came to me. Behold the Sacrifice that ever there is Mention of; On the earth there is not His like: The chief seraphim of heaven are Wondering To see their King on the tree, There expiring. There is no ending ever to be got To his love; His great generous treasures are Above our grasp; In himself is completely All that my weak soul Shall wish morning and evening Hallelujah!tr. 2022 Richard B Gillion |
|